| Hafan | Trwydded Allanol |
| Hanes Bragu | Teithiau'r Bragdy |
| Y Proses Bragu | Newyddion / Digwyddiadau |
| Cwrwau | Dolennau |
| Lagers | Cysylltiadau |
| Diodydd Meddal |
Y mae’r Profiad Celtaidd yn cyfuno offer bragu modern â dulliau bragu Celtaidd hynafol, sydd yn creu cwrwau blasus a chyfannol.

Cymysgir amrywiaethau unigryw o frag wedi’i egino (a adwaenir fel haidd wedi’i fragu) gyda’i gilydd yn y bragdy er mwyn darparu’r “grist”. Wedyn cymysgir y grist â dŵr poeth yn y “baril masio” ar gyfer proses a adwaenir fel “masio”. Yn ystod y proses hwn, y mae ensymau naturiol o fewn y brag yn torri i lawr llawer o’r startsh i mewn i siwgrau sydd yn chwarae rhan hanfodol yn y proses eplesu. Fel rheol y mae masio yn cymryd rhwng un a dwy awr, ac y mae’n helpu rhoi i gwrwau liw, corff a blas Celtaidd unigryw.

Ar ôl y masio, perfformir proses o’r enw “spargio”. Caiff dŵr diferol poeth ei redeg trwy’r grawn er mwyn tynnu allan y siwgrau. Defnyddir tymheredd a pH manwl gan y Profiad Celtaidd er mwyn cyflawni’r cyfraddau cynhyrchu gorau. Cam anodd yw hwn, oherwydd bydd y tymheredd neu pH anghywir yn tynnu allan tannins o’r siaff ( plisg grawn) hefyd, sydd yn achosi i’r cwrw fod yn chwerw. Y mae’r hylif hwn yn cynnwys y breci wedi’i fasio nawr ac yn nesaf caiff hwn ei drosglwyddo i mewn i’r llestr berwi neu’r “Copr”.

Defnyddia’r Profaid Celtaidd degell nwy a gaiff ei danio’n uniongyrchol. Y mae’n bosibl rheoli’r tân er mwyn addasu’r cwrwau i gyd ac er mwyn rheoli natur grymus y berwi a chyfradd yr anweddu.
Y mae berwi’r breci’n gofalu ei fod yn sterilaidd ac felly y mae’n atal llawer o heintiau. Yn ystod y berwi, ychwanegir hopys , sydd yn cyfrannu chwerwedd, blas a sawr i’r cwrw, ac yn ogystal â gwres y berwi, y mae’n achosi i broteinau yn y breci geulo ac i pH y breci gwympo. Yn olaf, y mae’r tarthau a gynhyrchid yn ystod y berwi yn anweddu blasau, yn cynnwys rhagsylweddion sylffid deufethyl.
Y mae’n rhaid berwi’r hylif fel y mae’n gyson ac yn gryf. Ym mragdy’r Profiad Celtaidd y mae’r berwi’n parhau am rhwng hanner cant a chant o funudau, yn dibynnu ar ei gryfder, amser ychwanegu’r hopys ac ar faint y breci y mae’r bragwr yn disgwyl ei anweddu.
Ar ôl y proses berwi, rhoir y breci mewn trobwll. Y mae’r hyn a elwir yr effaith gwpan de yn gwthio’r soledau mwy trwchus ( proteinau wedi’u ceulo, sylwedd llysieuol o hopys) i mewn i gôn yng nghanol tanc y trobwll. Wedyn y mae’r breci’n barod i gael ei trosglwyddo.
Ar ôl y trobwll, y mae’n rhaid dod â’r breci i lawr i dymereddau eplesu cyn i’r burum gael ei ychwanegu. Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfnewidiwr gwres plât, ble’r deuir â’r tymheredd i lawr i ugain gradd yn barod i’r proses eplesu

Y mae eplesu, fel cam yn y proses bragu, yn cychwyn cyn gynted ag y mae burum yn cael ei ychwanegu i’r breci wedi’i oeri. Hwn yw’r pwynt hefyd pan elwir y cynnyrch yn gwrw am y tro cyntaf. Yn ystod y cyfnod hwn caiff siwgrau a gâi eu hennill o’r brag eu metaboleiddio i mewn i alcohol a deuocsid carbon. Ar ôl y proses teneuo, pan fo digon o siwgr wedi cael ei droi i mewn i alcohol, caiff y cwrw ei oeri ac y mae y burum yn gollwng i waelod y eplesyddion. Yn y Profiad Celtaidd deuir â’r tymheredd i rhwng 6 ac 8 gradd.

Ar ôl i’r cwrw aeddfedu a phan fo maint y burum microbig yn gywir, caiff y cwrw ei “racio” i mewn i gasgenni dur gloyw.Ychwanegir isinglass finings er mwyn helpu’r cwrw i sefydlu ar ôl eplesu am yr ail dro.
Wedyn caiff y cwrw ei storio yn seler y bragdy am 7 ddiwrnod o leiaf er mwyn rhoi i’r cwrw aeddfedrwydd perffaith. Gedwir y seler ar dymheredd amgylchynol o rhwng 12 a 14 gradd, sydd yn ddelfrydol ar gyfer eplesu eilaidd rheoledig.
Y mae gan y Profiad Celtaidd beiriannau wedi’u hawtomeiddio’n llwyr ar gyfer rhoi’r cwrwau i mewn i boteli a chasgenni. Defnyddia’r bragdy danciau cwrw gloyw er mwyn helpu tynnu allan soledau cyn iddo hidlo a phacio ei amrediad o gynhyrchion.