Celt Icon

Hanes Bragu Ymhlith Y Celtiaid, 700 CC – 2007 OC

Hallstatt / La Tene, 800 – 400 CC

Y diwylliant Hallstatt oedd y prif ddiwylliant yng nghanol Ewrop rhwng yr wythfed ganrif a’r chweched ganrif CC (sef, Oes yr Haearn Gynnar Ewropeaidd ). Fe’i dilynwyd yn rhan helaeth o Ganol Ewrop gan y diwylliant La Tene. Y diwylliant La Tene oedd diwylliant Oes yr Haearn Ewropeaidd a enwyd ar ôl y safle archeolegol La Tene ar ochr ogleddol Llyn Neuchâtel yn y Swistir, ble’r darganfuwyd llawer o arteffactau gwerthfawr gan Hansli Kopp ym 1857.

Enwyd rhai o’r cymdeithasau a gysylltir yn archeolegol â diwylliant materol La Tene gan awduron Groeg a Rhufeinig o’r bumed ganrif Keltoi (“Celtiaid”) a Galli (“Galiaid”).


Celt Icon

Hochdorf, Yr Almaen 550 CC

Daethpwyd o hyd i nifer mawr o ronynnau haidd diblisg wedi’u hegino’n wan yn ystod dadansoddiadau archeobotanegol o’r cloddfeydd mewn anheddiad Celtaidd cynnar  yn Eberdingen-Hochdorf yn Ne-Orllewin yr Almaen (tua 600 – 400 CC). Ymddengys fod y gronynnau hyn yn cynrychioli egino bwriadol, oherwydd purdeb y gronynnau a ddarganfuwyd a’r amgylchiadau archeolegol anarferol. Trafodir posibilrwydd bragu bwriadol y mae’n bosibl ei bod wedi’i gysylltu â gwneud cwrw. Ymddengys fod y pethau a ddarganfuwyd yn Hochdorf yn ganlyniad bragu bwriadol haidd diblisg ar gyfer bragu cwrw Celtaidd.

Ychydig o ganrifoedd ar ôl hyn (424 CC ), datblygwyd casgenni pren cryf wedi’u dal at ei gilydd gyda chylchyn haearn gan Geltiaid Gogledd Ewrop yn ystod Oes yr Haearn er mwyn storio pob math o bethau. Defnyddir hyd yn oed heddiw yr egwyddor “cwrw go iawn” gyda chynhwyswyr, sef “eu bod i gyd yn cynnwys cwrw heb ei hidlo, heb ei basteureiddio”.


Celt Icon

Rhyfelwyr – y Silwriaid, Bracis a Curmi, 48 – 78 CC

Yn ystod y canrifoedd pan oedd y Rhufeiniaid yn goresgyn Prydain Fawr, y mae’n debyg bod yr enwau Bracis (neu Braces) a Churmi (neu Kurmi), sydd yn golygu haidd wedi’i fragu a chwrw yn ôl eu trefn, yn cael eu defnyddio yn gyffredin yn y mamwledydd Celtaidd. Y mae hyn felly yn darparu mwy o dystiolaeth ar gyfer y diwylliant bragu Celtaidd datblygedig.

Heddiw y mae’r gair Ffrangeg ar gyfer Bragdy, sef “Brasserie”, yn tarddu o’r enw Celtaidd “Bracis”, ac y mae’n debyg bod y gair Sbaeneg ar gyfer cwrw, sef “Cerveza”, yn tarddu o’r enw Celtaidd “Curmi”.

Ymdeithiodd y Rhufeiniaid trwy’r rhan fwyaf o Brydain, ond roedd problemau ac fe’u gorchfygwyd unwaith gan lwyth Celtaidd o’r enw y Silwriaid, a oedd yn meddu ar y diriogaeth a adwaenir heddiw fel De- ddwyrain Cymru.


Celt Icon

Arthur, 400 – 600 OC

Yn ystod yr Oesoedd Tywyll, ar ôl i’r Rhufeiniaid adael Prydain, dechreuodd llwythau Germanaidd , a adwaenid fel yr Eingl a’r Saeson, lifo i mewn i’r ynys. Gwthiwyd y Celtiaid i fyny a thua’r gorllewin i mewn i’r ardaloedd a adwaenir heddiw fel yr Alban, Cymru, Cernyw a Llydaw yng Ngogledd Ffrainc. Un o’r chwedlau Celtaidd o’r cyfnod hwn oedd y Brenin Arthur. Credid iddo ennill cyfres o frwydrau yn erbyn y goresgynwyr estron.

Ni wyddom lawer am hanes bragu Celtaidd yn ystod yr Oesoedd Tywyll, ond y mae’r enwau “Cwrwf”, “Korev” a “Cuirm” ( sef, y geiriau Cymraeg, Llydaweg ac Hen Sgotaidd ar gyfer cwrw) i gyd yn tarddu tua’r cyfnod hwn, ac y mae hyn yn awgrymu bod llawer o gwrw yn cael ei yfed ymhlith y Celtiaid.

 

Iaith Lafar, Heddiw

  • Cwrw yng Nghymru
  • Coreff yn Llydaw
  • Beoir yn Iwerddon
  • Leann yn yr Alban
  • Lhune ar Ynys Manaw

Heddiw y mae gyda’r cenhedloedd i gyd sydd yn siarad ieithoedd Celtaidd enwau sydd yn ôl pob tebyg yn mynd yn ôl i’r traddodiadau bragu Celtaidd gwreiddiol.